{"id":8,"date":"2018-08-15T13:06:45","date_gmt":"2018-08-15T13:06:45","guid":{"rendered":"http:\/\/cordon.cymru\/?page_id=8"},"modified":"2018-08-20T12:28:54","modified_gmt":"2018-08-20T12:28:54","slug":"english-calon-lan-datganiad-ar-amddiffyn-calon-llywodraeth-cymru-ar-gymdeithas-sifil","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/","title":{"rendered":"Datganiad ar amddiffyn calon Cynulliad Cenedlaethol Cymru a&#8217;r gymdeithas sifil"},"content":{"rendered":"<p><a name=\"rhaglith\"><\/a><\/p>\n<h2>Rhaglith<\/h2>\n<p>Rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus, llawn gofid. Yma yng Nghymru mae ansicrwydd economaidd, safonau byw sy\u2019n gostwng, a&#8217;r diymadferthedd cynyddol a deimlir gan lawer, yn creu tir ffrwythlon sy\u2019n galluogi hadau casineb i dyfu a ffynnu. Mae&#8217;n rhaid i ni fel cymdeithas gymryd camau i wrthdroi\u2019r dirywiad hwn. Mae\u2019n rhaid inni adnabod arwyddion yr amserau a chymryd safiad yn erbyn anoddefgarwch.<\/p>\n<p>Mae UKIP, a\u2019i phresenoldeb wrth galon ein sefydliadau democrataidd, yn cynrychioli bygythiad gyda\u2019r mwyaf uniongyrchol i\u2019n henw da rhyngwladol a\u2019n cyd-werthoedd fel cenedl; yn wir, mae rhai o aelodau UKIP yn gwadu bodolaeth Cymru fel cenedl.<\/p>\n<p>Yn amlwg, mae\u2019n rhaid inni gydymdrafod \u00e2\u2019r rheini a bleidleisiodd trostynt a mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r dieithrio a\u2019r dadrithio a\u2019r ffactorau eraill sydd wedi ysgogi eu cynnydd. Fodd bynnag, ni allwn sefyll yn ddidaro wrth i\u2019r blaid hon wenwyno ein sefydliadau gwleidyddol a\u2019n cymdeithas sifil.<\/p>\n<p>Mae\u2019n blaid sydd ag aelodau hiliol, fel y mae ei sylfaenydd Alan Sked wedi cydnabod, a gwelir ynddi nifer o nodweddion neo-ffasgiaeth. Mae wedi manteisio ar dlodi ac ansicrwydd i hyrwyddo polis\u00efau poblyddol, di-sail, gan honni ei bod ar ochr \u2018y bobl\u2019 tra bo nifer o\u2019i harweinwyr yn aelodau o \u00e9lites grymus ac yn elwa ar gefnogaeth barwniaid y wasg. Maent yn cyflwyno ffurf ymosodol a siofinaidd ar genedlaetholdeb Prydeinig, ar d\u00e2n gan senoffobia, ac mae eu gwleidyddiaeth wrth-ryddfrydol yn tanseilio hawliau a goddefgarwch.<\/p>\n<p>Rydym yn byw mewn democratiaeth, ond wrth ymwneud ag UKIP ers ethol saith o\u2019i chynrychiolwyr yn ACau, mae\u2019r gofynion y mae\u2019r mandad hwn yn eu rhoi arnom wedi eu camddehongli.<\/p>\n<p>A hwythau\u2019n ACau, mae\u2019r cynrychiolwyr etholedig hyn yn cymryd eu seddi, gan gymryd arnynt freintiau statudol a chyfreithiol penodol. Byddant yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor a sesiynau llawn a byddant yn pleidleisio yn y Cynulliad. Derbyniwn hyn oll.<\/p>\n<p>Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofyniad ar ACau y pleidiau eraill i estyn breintiau a manteision i UKIP sy&#8217;n ymestyn y tu hwnt i&#8217;r gofynion statudol a fynnir gan ddemocratiaeth yng Nghymru. Mewn cymdeithas sifil, nid oes unrhyw reidrwydd i wahodd ACau UKIP (ar sail y ffaith syml eu bod yn ACau) i ymgyfranogi o unrhyw weithgaredd heblaw busnes y Cynulliad.<\/p>\n<p>Mewn democratiaeth aeddfed, mae cymdeithas sifil yn mwynhau mesur helaeth o annibyniaeth ar y weithrediaeth a\u2019r ddeddfwrfa; nid yw\u2019n ddarostyngedig iddynt. Nid oes unrhyw ofyniad ar sefydliadau cymdeithas sifil i gyflwyno syniadau ac ideolegau i\u2019r pau cyhoeddus sy\u2019n anathema i gyd-werthoedd goddefgarwch ac urddas dynol.<\/p>\n<p>Dan amgylchiadau o\u2019r fath mae\u2019n rhaid inni wneud safiad a cheisio cryfhau ein gwerthoedd ar y cyd. Fel y mae\u2019r hanesydd Simon Schama wedi nodi, yn y cyfnod cythryblus hwn mae gwersi y Weriniaeth Weimar yn llefaru wrthym. Mewn gwledydd democrataidd eraill yn Ewrop lle mae aelodau o bleidiau asgell-dde eithafol, neu neo-ffasgaidd, wedi eu hethol, mae gwleidyddion democrataidd wedi cymryd camau i ddiogelu craidd eu cymdeithas sifil a\u2019u sefydliadau democrataidd \u2013 weithiau drwy fabwysiadu\u2019r hyn a elwir yn <em>cordon sanitaire<\/em>.<\/p>\n<p>Felly digon yw digon \u2013 rhaid i ni yng Nghymru gymryd ein camau ein hunain i ddiogelu ein sefydliadau llywodraethol a\u2019n cymdeithas sifil rhag UKIP.<\/p>\n<p>Er lles ein gwerthoedd anwylaf mae\u2019n rhaid inni i gyd weithio\u2019n galed \u2013 gwleidyddion, y cyfryngau a chymdeithas sifil \u2013 i dynnu sylw at y bygythiad y mae gwleidyddiaeth UKIP yn ei gynrychioli, a phwysleisio mai po fwyaf y mae ei phresenoldeb yn cael ei normaleiddio y mwyaf y bydd ei hanoddefgarwch a\u2019i senoffobia yn dod yn rhan o\u2019n bywyd cymunedol.<\/p>\n<p>Rydym eisoes yn gweld sut y mae&#8217;r Ceidwadwyr yn mabwysiadu ieithwedd senoffobaidd UKIP wrth ymateb i&#8217;w llwyddiant. Mae ACau UKIP, yn w\u00ean i gyd, yn ymddangos yn y lleoedd mwyaf amhriodol ar ein cyfryngau cymdeithasol, ac mewn sefydliadau y mae eu gwleidyddiaeth yn gweithio i\u2019w tanseilio. Rhaid i\u2019r normaleiddio ymlusgol hwn gael ei rwystro cyn ei bod yn rhy hwyr.<\/p>\n<p>Rhaid i wleidyddion achub y blaen. Yn y lle cyntaf, rhaid iddynt herio polis\u00efau UKIP a datgelu&#8217;r celwydd a\u2019r rhagrith sy\u2019n nodweddu\u2019r blaid. Hyd yn oed yn fwy sylfaenol, rhaid iddynt herio eu presenoldeb yn y Cynulliad o ddydd i ddydd.<\/p>\n<p>Os bydd y gofyniad i droi eu cefnau ar UKIP yn achosi lletchwithdod personol i\u2019n gwleidyddion, rydym yn gofyn iddynt eu hatgoffa eu hunain o&#8217;r modd y mae gwleidyddiaeth casineb yn difreinio miloedd o bobl yng Nghymru ac wedi arwain at ymchwydd mewn troseddau casineb ffiaidd a niweidiol. I\u2019r perwyl hwn rydym yn erfyn ar ein pleidiau gwleidyddol blaengar i fabwysiadu\u2019r cod ymddygiad isod o ran eu hymwneud ag UKIP.<\/p>\n<p><a name=\"codymarfer\"><\/a><\/p>\n<p><img decoding=\"async\" src=\"\/wp-content\/themes\/cordon\/llinell.jpg\" \/><\/p>\n<h2>Calon L\u00e2n: Cod ymarfer er mwyn rheoli ymwneud ag UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol<\/h2>\n<ol>\n<li>Dylid cyfyngu ymddangosiadau cyhoeddus gydag ACau UKIP i\u2019r lleiafswm a fynnir gan y gyfraith. Dylid cadw at hynny wrth ymgymryd \u00e2 dyletswyddau swyddogol, ymweliadau a drefnwyd gan y Cynulliad, ac achlysuron cymdeithasol. Pan fydd ymddangosiadau o\u2019r fath yn fater o raid absoliwt dylai ACau pleidiau eraill ymddwyn \u00e2\u2019r gwedduster disgwyliedig, gan osgoi cymdeithasu ag aelodau UKIP ac osgoi ymddangos mewn lluniau gyda hwy at ddibenion cysylltiadau cyhoeddus.<\/li>\n<li>Gofynnir yr un modd i staff a swyddogion pleidiau eraill i gyfyngu eu rhyngweithio \u00e2 gwleidyddion UKIP a\u2019u staff i\u2019r lleiafswm sydd ei angen er mwyn cyflawni busnes y Cynulliad.<\/li>\n<li>Ni ddylai ACau UKIP fod yn aelodau o\u2019r grwpiau diddordeb trawsbleidiol a sefydlir yn y Cynulliad. Byddai croesawu aelodau UKIP i grwpiau o&#8217;r fath nid yn unig yn cyfreithloni eu heithafiaeth, ond mae\u2019r gwerthoedd y maent yn eu hybu yn niweidiol i weithgareddau ACau eraill.<\/li>\n<li>Ni ddylid caniat\u00e1u i UKIP ymgymryd ag unrhyw negodi rhyngbleidiol yn y Senedd, ni ddylid eu defnyddio i\u2019r perwyl hwnnw, ac nid ddylid caniat\u00e1u iddynt fod yn gyfrannog o negodi felly mewn unrhyw ffordd. Byddai caniat\u00e1u i UKIP gael dylanwad ar negodi biliau, mesurau a\u2019r gyllideb yn rhoi cydnabyddiaeth iddynt fel grym gwleidyddol mewn modd na all ond bod yn niweidiol i fuddiannau pleidiau eraill a democratiaeth Cymru yn ei chrynswth.<\/li>\n<li>Yn yr un modd, ni ddylai aelodau UKIP fod gyfrannog o argymhellion neu adroddiadau polisi pwyllgorau\u2019r Cynulliad.<\/li>\n<li>O ran cymdeithas sifil, ni ddylai fod unrhyw ddisgwyliad gan Gynulliad Cymru y dylai gwahoddiadau i ddigwyddiadau a gweithgareddau lob\u00efo gynnwys UKIP. Dylai cyrff a noddir gan y Cynulliad, elusennau a sefydliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus gael rhwydd hynt i lunio eu canllawiau eu hunain ar gyfer ymdrin ag ACau UKIP.<\/li>\n<\/ol>\n<p>Sefydlwyd y Cynulliad ar egwyddor cynhwysiant. Fodd bynnag, dylem sicrhau nad yw\u2019r cynhwysiant hwn yn ymestyn i hyrwyddo casineb, senoffobia ac anoddefgarwch.<\/p>\n<p>Yn wir, i\u2019r perwyl hwn y mae\u2019n bwysig fod gwleidyddion yn mynd i\u2019r afael \u00e2\u2019r agenda bolisi a ddatblygwyd gan aelodau UKIP drwy gyfeirio ati \u00e2 thermau megis \u2018adain-dde eithafol\u2019, \u2018neo-ffasgaidd\u2019 a \u2018hiliol\u2019, a hynny er mwyn tynnu sylw at natur waelodol y wleidyddiaeth y maent yn ei harddel. Dylid cydnabod bygythiad UKIP am yr hyn ydyw, a gwneud hynny\u2019n benodol er mwyn sicrhau aelodau o leiafrifoedd fod yr hinsawdd o gasineb sydd wedi dod i\u2019r amlwg yn y misoedd diwethaf yn cael ei chymryd o ddifri.<\/p>\n<p>Wrth gymryd y safiad hwn yn erbyn UKIP, gofynnwn i wleidyddion goleuedig Cymru i gydnabod eu bod, wrth anelu at gadw calon ein democratiaeth yn l\u00e2n rhag grymoedd dinistriol a gwenwynig, hefyd yn ymrwymo wrth wella diwylliant gwleidyddol democrataidd Cymru, diwylliant a all sicrhau bod ein gwlad yn parhau i fod yn rheng flaen gwleidyddiaeth flaengar sydd \u00e2 chefnogaeth sff\u00ear cyhoeddus ffyniannus ac iach.<\/p>\n<p>Dim ond hybu diwylliant gwleidyddol cadarn, tryloyw ac egwyddorol a all ein helpu i ymateb i\u2019r heriau dwfn, problemataidd a sylfaenol sydd wedi arwain at wleidyddiaeth neo-ffasgaidd yn dychwelyd i\u2019r DU. Rhaid i ni yng Nghymru, drwy ddilyn yn \u00f4l troed cenedlaethau blaenorol, fod ar flaen y gad wrth ymladd yn \u00f4l.<\/p>\n<p><i>Rhaid wrth galon l\u00e2n a chryf yn ein corff democrataidd Cymreig.<\/i><\/p>","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Rhaglith Rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus, llawn gofid. Yma yng Nghymru mae ansicrwydd economaidd, safonau byw sy\u2019n gostwng, a&#8217;r diymadferthedd cynyddol a deimlir gan lawer, yn creu tir ffrwythlon sy\u2019n galluogi hadau casineb i dyfu a ffynnu. Mae&#8217;n rhaid i ni fel cymdeithas gymryd camau i wrthdroi\u2019r dirywiad hwn. Mae\u2019n rhaid inni adnabod arwyddion [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":19,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-8","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=8"}],"version-history":[{"count":16,"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":38,"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/8\/revisions\/38"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/19"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/cordon.cymru\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=8"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}