Datganiad ar amddiffyn calon Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’r gymdeithas sifil

Rhaglith

Rydym yn byw mewn cyfnod cythryblus, llawn gofid. Yma yng Nghymru mae ansicrwydd economaidd, safonau byw sy’n gostwng, a’r diymadferthedd cynyddol a deimlir gan lawer, yn creu tir ffrwythlon sy’n galluogi hadau casineb i dyfu a ffynnu. Mae’n rhaid i ni fel cymdeithas gymryd camau i wrthdroi’r dirywiad hwn. Mae’n rhaid inni adnabod arwyddion yr amserau a chymryd safiad yn erbyn anoddefgarwch.

Mae UKIP, a’i phresenoldeb wrth galon ein sefydliadau democrataidd, yn cynrychioli bygythiad gyda’r mwyaf uniongyrchol i’n henw da rhyngwladol a’n cyd-werthoedd fel cenedl; yn wir, mae rhai o aelodau UKIP yn gwadu bodolaeth Cymru fel cenedl.

Yn amlwg, mae’n rhaid inni gydymdrafod â’r rheini a bleidleisiodd trostynt a mynd i’r afael â’r dieithrio a’r dadrithio a’r ffactorau eraill sydd wedi ysgogi eu cynnydd. Fodd bynnag, ni allwn sefyll yn ddidaro wrth i’r blaid hon wenwyno ein sefydliadau gwleidyddol a’n cymdeithas sifil.

Mae’n blaid sydd ag aelodau hiliol, fel y mae ei sylfaenydd Alan Sked wedi cydnabod, a gwelir ynddi nifer o nodweddion neo-ffasgiaeth. Mae wedi manteisio ar dlodi ac ansicrwydd i hyrwyddo polisïau poblyddol, di-sail, gan honni ei bod ar ochr ‘y bobl’ tra bo nifer o’i harweinwyr yn aelodau o élites grymus ac yn elwa ar gefnogaeth barwniaid y wasg. Maent yn cyflwyno ffurf ymosodol a siofinaidd ar genedlaetholdeb Prydeinig, ar dân gan senoffobia, ac mae eu gwleidyddiaeth wrth-ryddfrydol yn tanseilio hawliau a goddefgarwch.

Rydym yn byw mewn democratiaeth, ond wrth ymwneud ag UKIP ers ethol saith o’i chynrychiolwyr yn ACau, mae’r gofynion y mae’r mandad hwn yn eu rhoi arnom wedi eu camddehongli.

A hwythau’n ACau, mae’r cynrychiolwyr etholedig hyn yn cymryd eu seddi, gan gymryd arnynt freintiau statudol a chyfreithiol penodol. Byddant yn mynychu cyfarfodydd pwyllgor a sesiynau llawn a byddant yn pleidleisio yn y Cynulliad. Derbyniwn hyn oll.

Fodd bynnag, nid oes unrhyw ofyniad ar ACau y pleidiau eraill i estyn breintiau a manteision i UKIP sy’n ymestyn y tu hwnt i’r gofynion statudol a fynnir gan ddemocratiaeth yng Nghymru. Mewn cymdeithas sifil, nid oes unrhyw reidrwydd i wahodd ACau UKIP (ar sail y ffaith syml eu bod yn ACau) i ymgyfranogi o unrhyw weithgaredd heblaw busnes y Cynulliad.

Mewn democratiaeth aeddfed, mae cymdeithas sifil yn mwynhau mesur helaeth o annibyniaeth ar y weithrediaeth a’r ddeddfwrfa; nid yw’n ddarostyngedig iddynt. Nid oes unrhyw ofyniad ar sefydliadau cymdeithas sifil i gyflwyno syniadau ac ideolegau i’r pau cyhoeddus sy’n anathema i gyd-werthoedd goddefgarwch ac urddas dynol.

Dan amgylchiadau o’r fath mae’n rhaid inni wneud safiad a cheisio cryfhau ein gwerthoedd ar y cyd. Fel y mae’r hanesydd Simon Schama wedi nodi, yn y cyfnod cythryblus hwn mae gwersi y Weriniaeth Weimar yn llefaru wrthym. Mewn gwledydd democrataidd eraill yn Ewrop lle mae aelodau o bleidiau asgell-dde eithafol, neu neo-ffasgaidd, wedi eu hethol, mae gwleidyddion democrataidd wedi cymryd camau i ddiogelu craidd eu cymdeithas sifil a’u sefydliadau democrataidd – weithiau drwy fabwysiadu’r hyn a elwir yn cordon sanitaire.

Felly digon yw digon – rhaid i ni yng Nghymru gymryd ein camau ein hunain i ddiogelu ein sefydliadau llywodraethol a’n cymdeithas sifil rhag UKIP.

Er lles ein gwerthoedd anwylaf mae’n rhaid inni i gyd weithio’n galed – gwleidyddion, y cyfryngau a chymdeithas sifil – i dynnu sylw at y bygythiad y mae gwleidyddiaeth UKIP yn ei gynrychioli, a phwysleisio mai po fwyaf y mae ei phresenoldeb yn cael ei normaleiddio y mwyaf y bydd ei hanoddefgarwch a’i senoffobia yn dod yn rhan o’n bywyd cymunedol.

Rydym eisoes yn gweld sut y mae’r Ceidwadwyr yn mabwysiadu ieithwedd senoffobaidd UKIP wrth ymateb i’w llwyddiant. Mae ACau UKIP, yn wên i gyd, yn ymddangos yn y lleoedd mwyaf amhriodol ar ein cyfryngau cymdeithasol, ac mewn sefydliadau y mae eu gwleidyddiaeth yn gweithio i’w tanseilio. Rhaid i’r normaleiddio ymlusgol hwn gael ei rwystro cyn ei bod yn rhy hwyr.

Rhaid i wleidyddion achub y blaen. Yn y lle cyntaf, rhaid iddynt herio polisïau UKIP a datgelu’r celwydd a’r rhagrith sy’n nodweddu’r blaid. Hyd yn oed yn fwy sylfaenol, rhaid iddynt herio eu presenoldeb yn y Cynulliad o ddydd i ddydd.

Os bydd y gofyniad i droi eu cefnau ar UKIP yn achosi lletchwithdod personol i’n gwleidyddion, rydym yn gofyn iddynt eu hatgoffa eu hunain o’r modd y mae gwleidyddiaeth casineb yn difreinio miloedd o bobl yng Nghymru ac wedi arwain at ymchwydd mewn troseddau casineb ffiaidd a niweidiol. I’r perwyl hwn rydym yn erfyn ar ein pleidiau gwleidyddol blaengar i fabwysiadu’r cod ymddygiad isod o ran eu hymwneud ag UKIP.

Calon Lân: Cod ymarfer er mwyn rheoli ymwneud ag UKIP yn y Cynulliad Cenedlaethol

  1. Dylid cyfyngu ymddangosiadau cyhoeddus gydag ACau UKIP i’r lleiafswm a fynnir gan y gyfraith. Dylid cadw at hynny wrth ymgymryd â dyletswyddau swyddogol, ymweliadau a drefnwyd gan y Cynulliad, ac achlysuron cymdeithasol. Pan fydd ymddangosiadau o’r fath yn fater o raid absoliwt dylai ACau pleidiau eraill ymddwyn â’r gwedduster disgwyliedig, gan osgoi cymdeithasu ag aelodau UKIP ac osgoi ymddangos mewn lluniau gyda hwy at ddibenion cysylltiadau cyhoeddus.
  2. Gofynnir yr un modd i staff a swyddogion pleidiau eraill i gyfyngu eu rhyngweithio â gwleidyddion UKIP a’u staff i’r lleiafswm sydd ei angen er mwyn cyflawni busnes y Cynulliad.
  3. Ni ddylai ACau UKIP fod yn aelodau o’r grwpiau diddordeb trawsbleidiol a sefydlir yn y Cynulliad. Byddai croesawu aelodau UKIP i grwpiau o’r fath nid yn unig yn cyfreithloni eu heithafiaeth, ond mae’r gwerthoedd y maent yn eu hybu yn niweidiol i weithgareddau ACau eraill.
  4. Ni ddylid caniatáu i UKIP ymgymryd ag unrhyw negodi rhyngbleidiol yn y Senedd, ni ddylid eu defnyddio i’r perwyl hwnnw, ac nid ddylid caniatáu iddynt fod yn gyfrannog o negodi felly mewn unrhyw ffordd. Byddai caniatáu i UKIP gael dylanwad ar negodi biliau, mesurau a’r gyllideb yn rhoi cydnabyddiaeth iddynt fel grym gwleidyddol mewn modd na all ond bod yn niweidiol i fuddiannau pleidiau eraill a democratiaeth Cymru yn ei chrynswth.
  5. Yn yr un modd, ni ddylai aelodau UKIP fod gyfrannog o argymhellion neu adroddiadau polisi pwyllgorau’r Cynulliad.
  6. O ran cymdeithas sifil, ni ddylai fod unrhyw ddisgwyliad gan Gynulliad Cymru y dylai gwahoddiadau i ddigwyddiadau a gweithgareddau lobïo gynnwys UKIP. Dylai cyrff a noddir gan y Cynulliad, elusennau a sefydliadau eraill a ariennir yn gyhoeddus gael rhwydd hynt i lunio eu canllawiau eu hunain ar gyfer ymdrin ag ACau UKIP.

Sefydlwyd y Cynulliad ar egwyddor cynhwysiant. Fodd bynnag, dylem sicrhau nad yw’r cynhwysiant hwn yn ymestyn i hyrwyddo casineb, senoffobia ac anoddefgarwch.

Yn wir, i’r perwyl hwn y mae’n bwysig fod gwleidyddion yn mynd i’r afael â’r agenda bolisi a ddatblygwyd gan aelodau UKIP drwy gyfeirio ati â thermau megis ‘adain-dde eithafol’, ‘neo-ffasgaidd’ a ‘hiliol’, a hynny er mwyn tynnu sylw at natur waelodol y wleidyddiaeth y maent yn ei harddel. Dylid cydnabod bygythiad UKIP am yr hyn ydyw, a gwneud hynny’n benodol er mwyn sicrhau aelodau o leiafrifoedd fod yr hinsawdd o gasineb sydd wedi dod i’r amlwg yn y misoedd diwethaf yn cael ei chymryd o ddifri.

Wrth gymryd y safiad hwn yn erbyn UKIP, gofynnwn i wleidyddion goleuedig Cymru i gydnabod eu bod, wrth anelu at gadw calon ein democratiaeth yn lân rhag grymoedd dinistriol a gwenwynig, hefyd yn ymrwymo wrth wella diwylliant gwleidyddol democrataidd Cymru, diwylliant a all sicrhau bod ein gwlad yn parhau i fod yn rheng flaen gwleidyddiaeth flaengar sydd â chefnogaeth sffêr cyhoeddus ffyniannus ac iach.

Dim ond hybu diwylliant gwleidyddol cadarn, tryloyw ac egwyddorol a all ein helpu i ymateb i’r heriau dwfn, problemataidd a sylfaenol sydd wedi arwain at wleidyddiaeth neo-ffasgaidd yn dychwelyd i’r DU. Rhaid i ni yng Nghymru, drwy ddilyn yn ôl troed cenedlaethau blaenorol, fod ar flaen y gad wrth ymladd yn ôl.

Rhaid wrth galon lân a chryf yn ein corff democrataidd Cymreig.